28 Mawrth 2017
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Equality, Local Government and Communities Committee
ELGC(5)-12-17 Papur 5/ Paper 5
Annwyl Ysgrifennydd Cabinet
Cyllid Cymunedau yn Gyntaf
Yn ddiweddar, cawsom gyfarfod gyda staff o’r pedwar clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yng Nghasnewydd. Roedd hyn yn rhan o waith parhaus y Pwyllgor i ystyried y penderfyniad i ddod â’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben.
Roeddem yn cael ar ddeall, ar sail y dystiolaeth lafar a roddwyd gennych i’r Pwyllgor ym mis Chwefror, y byddai’r lefelau cyllid yn parhau tan fis Mehefin 2017:
“I made the announcement on Tuesday to start a transition period, which was about fully funding the programme until June with a 70 per cent profile over the first 12 months of business.”[1]
Fodd bynnag, yn ystod y trafodaethau gyda staff, roeddent yn nodi y bydd y cyllid yn gostwng o fis Ebrill.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech egluro i ni pryd fydd y lefelau cyllid yn gostwng.
Yn gywir
John Griffiths AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.